P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni
Geiriad y
ddeiseb
Rydym yn
pryderu am statws a defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac
rydym yn falch iawn o’r datblygiad hwn. Fodd bynnag,
mae’r penderfyniad i adael i’r Cofnod - dogfen
o’r pwys symbolaidd mwyaf - droi bellach yn ddogfen uniaith
Saesneg ar y cyfan, ar ôl iddi fod yn gwbl ddwyieithog ers
1999, yn gwbl groes i’r datblygiad hwn ac yn sathru ar statws
swyddogol y Gymraeg.
Galwn felly ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddychwelyd at y polisi o ddarparu Cofnod dwyieithog cyflawn fel y gall pobl Cymru ddarllen trafodion Cynulliad yn eu hiaith eu hunain, boed hynny yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mater o egwyddor yw hyn, parchu hawliau iaith pobl Cymru ar lefel sylfaenol.
Cefndir
Cynigiwyd y ddeiseb gan Catrin
Dafydd a chasglwyd 1334 o
lofnodion arni. Mae gwybodaeth gefnogol gan y deisebwr wedi’i
chynnwys isod.